OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1252 (Cy. 84)
amaethyddiaeth, cymru
Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ar gyfer gweinyddu Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu’r rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608) (“y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol”) a’r tri o Reoliadau cysylltiedig eraill yr UE y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(1).
Mae rheoliad 3 yn pennu isafswm arwynebedd cymwys daliad y caniateir rhoi taliadau uniongyrchol i ffermwr mewn cysylltiad ag ef.
Mae rheoliad 4 yn pennu’r dyddiad pan fo’n rhaid i barseli a ddefnyddir fel y sail ar gyfer hawliad o dan y cynllun taliad sylfaenol fod ar gael i ffermwyr.
Mae rheoliad 5 yn pennu’r gweithgareddau y mae’n rhaid i ffermwr eu cyflawni er mwyn cynnal ardal amaethyddol mewn cyflwr addas i bori neu drin y tir.
Mae rheoliad 6 yn pennu isafswm y gweithgarwch amaethyddol y mae’n ofynnol ei gyflawni ar dir a gedwir yn naturiol mewn cyflwr addas i bori neu drin y tir.
Mae rheoliad 7 yn dynodi’r coed coedlan cylchdro byr sy’n gymwys o dan y cynllun taliad sengl, ac yn gosod y cylch cynaeafu uchaf.
Mae rheoliad 8 yn darparu ar ba sail y mae’n rhaid cyfrifo cynnydd mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr cymwys sy’n 40 oed neu’n iau ac sy’n cymryd rhan yn y cynlluniau ffermwyr ifanc.
Mae rheoliad 9 yn pennu’r trothwy lle na fydd gweithgareddau amaethyddol yn cael eu hystyried yn ddi-nod, yn nodi sut y mae ffermwr i ddangos mai arfer gweithgarwch amaethyddol yw ei brif fusnes ac yn darparu esemptiad i ffermwr a dderbyniodd EUR 5,000 neu lai o daliadau uniongyrchol yn y flwyddyn flaenorol rhag yr anghymhwysiad i gael taliadau uniongyrchol.
Mae rheoliad 10 yn nodi sut y caiff hawliau i daliadau o dan y cynllun taliad sylfaenol eu dyrannu ac yn pennu ar ba ddyddiad y mae’n rhaid i nifer yr hectarau cymwys fod ar gael i ffermwyr.
Mae rheoliad 11 yn nodi sut y caniateir i hawliau i daliadau o dan y cynllun taliad sylfaenol gael eu trosglwyddo drwy eu gwerthu neu eu lesio ac yn gwneud darpariaeth ynghylch o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid i drosglwyddwr hysbysu Gweinidogion Cymru fod yr hawliau i daliadau wedi eu trosglwyddo.
Mae rheoliad 12 yn darparu mai o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl dyddiad y trosglwyddiad, yw’r cyfnod y mae’n rhaid i drosglwyddai daliad hysbysu Gweinidogion Cymru am y trosglwyddiad a gofyn am daliad.
Mae rheoliad 13 yn nodi’r gweithgareddau hynny heblaw amaethyddiaeth a ganiateir ar ardal amaethyddol am gyfnod o hyd at 28 o ddiwrnodau ym mhob blwyddyn galendr ac yn dynodi’r ardaloedd hynny a ystyrir fel rhai a ddefnyddir yn bennaf at ddibenion heblaw amaethyddiaeth ac sydd felly yn anghymwys at ddibenion y cynllun taliad sylfaenol.
Mae rheoliadau 14 i 16 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â chydran “wyrddu” y taliadau uniongyrchol, sy’n cysylltu taliadau ag arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd. Mae rheoliad 14 yn nodi’r cyfnod sydd i’w ystyried at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â gofynion i dyfu amrywiaeth o gnydau. Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer dynodi glaswelltiroedd parhaol sy’n amgylcheddol sensitif. Mae rheoliad 16 yn nodi’r pum ardal sydd i fod yn Ardaloedd â Ffocws Ecolegol (“AFfEau”), ac yn manylu ar gwmpas yr AFfEau o ran tir braenar, nodweddion tirwedd, ardaloedd coedlan cylchdro byr, ardaloedd coedwigaeth ac ardaloedd â chnydau sy’n bachu nitrogen.
Mae rheoliad 17 yn dirymu Rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu’r Cynllun Taliad Sengl a’r Cynlluniau Cymorth Ewropeaidd o ran Cymru, ond gyda darpariaeth arbed er mwyn parhau i gymhwyso Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1892 (Cy. 185)) mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth sy’n ymwneud â blynyddoedd hawlio cyn 2015.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o effeithiau’r Rheoliadau hyn ar gostau i fusnesau, mewn perthynas â busnesau fferm yng Nghymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran Cyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1252 (Cy. 84)
amaethyddiaeth, cymru
Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015
Gwnaed 22 Ebrill 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Ebrill 2015
Yn dod i rym 14 Mai 2015
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad
Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin
(Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mai 2015.
Dehongli
2.—(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cais sengl” (“single application”) yw cais am daliadau uniongyrchol mewn perthynas â chynlluniau cymorth sy’n seiliedig ar arwynebedd;
ystyr “chwyn goresgynnol estron” (“non-native invasive weeds”) yw’r canlynol—
Clymog Japan (Fallopia japonica)
Efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum)
Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera)
Rhododendron wyllt (Rhododendron ponticum);
mae i “glaswelltir parhaol” yr un ystyr ag a roddir i “permanent grassland” yn Erthygl 4(1)(h) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol ond mae hefyd yn cynnwys tir lle bydd llwyni bychan brodorol gan gynnwys y rheini a berthyn i deulu Ericaceae (grugoedd) a’r rhywogaeth Ulex gallii (eithin mân) ac/neu rhywogaethau brodorol yn nheuluoedd Juncaceae (brwyn) a Cyperaceae (hesg) mwyaf niferus a gellir ei bori;
ystyr “y Rheoliadau Ewropeaidd” (“the European Regulations”) yw—
(a) y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;
(b) y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig;
(c) y Rheoliad Gweithredu Taliadau Uniongyrchol; a
(d) y Rheoliad Gweithredu Llorweddol;
ystyr “y Rheoliad Gweithredu Llorweddol” (“the Horizontal Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio([3]);
ystyr “y Rheoliad Gweithredu Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol([4]);
ystyr “y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin([5]);
ystyr “y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig” (“the Direct Payments Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014 sy’n ategu’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol([6]).
(2) Mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yn unrhyw un neu ragor o’r Rheoliadau Ewropeaidd yr ystyr a roddir iddynt yn y Rheoliadau hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau’r UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Isafswm arwynebedd cymwys daliad
3. At ddibenion Erthygl 10(1) a (2) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol, ni chaniateir rhoi unrhyw daliadau uniongyrchol i ffermwr pan fo arwynebedd cymwys y daliad y mae’r taliadau’n cael eu hawlio neu’n ddyledus yn unol ag Erthygl 10(1)(b) mewn perthynas ag ef yn llai na 5 hectar.
Y dyddiad pan fo’n rhaid i dir cymwys fod ar gael i ffermwr
4. Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn y mae’r ffermwr yn gwneud datganiad yn ei chylch mewn cysylltiad â pharseli yn unol ag Erthygl 33(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol, y dyddiad y mae’n rhaid i’r parseli hynny fod ar gael i’r ffermwr yw 15 Mai o’r flwyddyn honno.
Cynnal ardal amaethyddol mewn cyflwr addas i bori neu drin y tir
5. At ddibenion Erthyglau 4(1)(c)(ii) a 4(2)(a) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol ac Erthygl 4 o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig, bernir bod ardal amaethyddol yn cael ei chynnal mewn cyflwr addas i bori neu drin y tir pan fo ffermwr yn rheoli chwyn goresgynnol estron a phrysgwydd ar yr ardal honno.
Isafswm y gweithgarwch amaethyddol ar dir a gedwir yn naturiol mewn cyflwr addas i bori neu drin y tir
6. At ddibenion Erthyglau 4(1)(c)(iii) a 4(2)(b) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol ac Erthygl 5 o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig, ar ardaloedd amaethyddol a gedwir yn naturiol mewn cyflwr addas i bori neu drin y tir, bernir bod ffermwr yn cyflawni isafswm y gweithgarwch pan fo—
(a) yr ardal honno yn cael ei phori ar ddwysedd stocio blynyddol o 0.01-0.05 o unedau da byw yr hectar; neu
(b) y ffermwr hwnnw yn rheoli chwyn goresgynnol estron a phrysgwydd ar yr ardal honno.
Coedlan cylchdro byr
7. At ddibenion Erthygl 4(1)(k) a (2)(c) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol—
(a) y rhestr o rywogaethau coed wedi eu plannu yw—
Gwernen (Alnus spp)
Bedwen arian (Betula pendula);
Collen (Corylus avellana);
Onnen Ewropeaidd (Fraxinus excelsior);
Pisgwydden (Tilia cordata);
Castanwydden bêr (Castanea sativa);
Masarnen (Acer pseudoplatanus);
Helygen (Salix spp);
Poplysen (Populus spp); a
(b) y cylch cynaeafu uchaf yw 20 mlynedd.
Ffermwyr ifanc
8.—(1)(1) At ddibenion y cyfrifiad ar gyfer taliad sy’n
ofynnol gan Erthygl 50(6) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol,
bydd nifer yr hawliau y mae ffermwr ifanc wedi eu gweithredu yn
unol ag Erthygl 32(1) o’r Rheoliad hwnnw yn cael ei luosi
â 25% o swm a gyfrifir drwy rannu canran sefydlog o’r
terfyn cenedlaethol ar gyfer blwyddyn galendr 2019 â nifer yr
holl hectarau cymwys a ddatgenir ar y cais sengl ar gyfer blwyddyn
hawlio 2015.
(2) At ddiben Erthygl 50(9) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol, mae un terfyn uchaf o 25 yn gymwys i nifer yr hectarau cymwys a ddatgenir gan y ffermwr.
Ffermwyr actif
9.—(1)(1) At ddibenion Erthygl 9(2) is-baragraff 3(b) o’r Rheoliad
Taliadau Uniongyrchol, nid yw gweithgareddau amaethyddol ffermwr yn
ddi-nod os yw cyfanswm maint daliad y ffermwr hwnnw yn fwy na 21
hectar neu’n gyfwerth â hynny, yn unol â thrydydd
is-baragraff Erthygl 13(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol
Dirprwyedig.
(2) At ddibenion Erthygl 9(2) is-baragraff 3(c) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol, mae prif fusnes neu amcanion cwmni ffermwr yn cynnwys arfer gweithgarwch amaethyddol pan fo’r ffermwr hwnnw yn darparu tystiolaeth i Weinidogion Cymru y cafwyd o leiaf 40% o gyfanswm derbyniadau’r busnes o weithgareddau amaethyddol yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf y mae tystiolaeth ar gael ar ei chyfer, yn unol â thrydydd is-baragraff Erthygl 13(3) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig.
(3) At ddibenion Erthygl 9(4) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol, yr uchafswm yw EUR 5,000.
Hawliau’r Cynllun Taliad Sylfaenol
10.—(1)(1) At ddibenion Erthygl 22(1) o’r Rheoliad Gweithredu
Llorweddol, rhaid i geisiadau am ddyraniad o hawliau i daliadau o
dan y cynllun taliad sylfaenol yn unol ag Erthygl 24 neu Erthygl
30, ac eithrio paragraff 7(e), o’r Rheoliad Taliadau
Uniongyrchol, gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ddim hwyrach na
15 Mai yn y flwyddyn galendr berthnasol.
(2) Rhaid i gais am ddyraniad o hawliau i daliadau gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar yr un pryd â’r cais am gymorth o dan y cynllun taliad sylfaenol, yn unol ag Erthygl 22(2) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol.
(3) At ddibenion trydydd is-baragraff Erthygl 24(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol, bydd Gweinidogion Cymru yn dyrannu hawliau i daliadau i ffermwyr—
(a) sydd â’r hawl i gael taliadau uniongyrchol yn unol ag Erthygl 9 o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol; a
(b) sy’n cyflwyno cais am ddyraniad o hawliau i daliadau o dan y cynllun taliad sylfaenol yn unol â pharagraffau (1) a (2) o’r rheoliad hwn; ac
(c) naill ai—
(i) a oedd yn cynhyrchu ffrwythau, llysiau, tatws bwyta, tatws hadyd neu blanhigion addurniadol; neu
(ii) a oedd yn meithrin gwinllannoedd; neu
(iii) nad ydynt erioed wedi dal hawliau’r cynllun taliad sengl, naill ai drwy berchenogaeth neu drwy eu lesio i mewn, ond sy’n gallu cyflwyno tystiolaeth ddilysadwy eu bod, ar 15 Mai 2013, yn cynhyrchu, yn magu neu’n tyfu cynhyrchion amaethyddol, gan gynnwys drwy gynaeafu, godro, bridio anifeiliaid a chadw anifeiliaid at ddibenion ffermio.
(4) At ddibenion Erthygl 24(2) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol, y dyddiad y mae’n rhaid i nifer yr hectarau cymwys fod ar gael i’r ffermwr yw 15 Mai 2015.
Trosglwyddo hawliau
11.—(1)(1) Yn achos gwerthu daliad neu ran ohono, caiff ffermwr, drwy
gontract a lofnodir cyn 15 Mai 2015, drosglwyddo ynghyd
â’r daliad neu ran ohono, yr hawliau i daliadau
cyfatebol sydd i’w dyrannu, yn unol ag Erthygl 20 o’r
Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig.
(2) Yn achosi lesio daliad neu ran ohono, caiff ffermwr, drwy gontract a lofnodir cyn 15 Mai 2015, lesio allan ynghyd â’r daliad neu ran ohono, yr hawliau i daliadau cyfatebol sydd i’w dyrannu, yn unol ag Erthygl 21 o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig.
(3) At ddibenion Erthygl 8(1) o’r Rheoliad Gweithredu Taliadau Uniongyrchol, y cyfnod y mae’n rhaid i drosglwyddwr yr hawliau i daliadau hysbysu Gweinidogion Cymru ynddo am y trosglwyddiad yw rhwng 16 Mai yn y flwyddyn galendr flaenorol a 30 Ebrill (gyda’r ddau ddyddiad hynny’n gynwysedig) yn y flwyddyn galendr gyntaf y caiff y trosglwyddai gynnwys yr hawliau hynny yng nghais y trosglwyddai am daliadau uniongyrchol.
Trosglwyddo daliad
12. At ddibenion Erthygl 8(3)(a) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol, y cyfnod y mae’n rhaid i’r trosglwyddai hysbysu Gweinidogion Cymru am y trosglwyddiad a gofyn am daliad o’r cymorth neu’r gefnogaeth, neu’r ddau, yw o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl dyddiad y trosglwyddiad.
Gweithgareddau heblaw amaethyddiaeth
13.—(1)(1) Yn unol ag Erthygl 32(3) o’r Rheoliad Taliadau
Uniongyrchol—
(a) rhestrir y gweithgareddau heblaw amaethyddiaeth y caniateir eu cynnal ar ardal amaethyddol o ddaliad am gyfnod o hyd at 28 o ddiwrnodau ym mhob blwyddyn galendr yn Rhan 1 o’r Atodlen;
(b) rhestrir yr ardaloedd a ystyrir yn rhai a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gweithgareddau heblaw amaethyddiaeth yn Rhan 2 o’r Atodlen;
(c) os mai prif bwrpas y tir mewn unrhyw ardal yw ar gyfer gweithgareddau hamdden, neu weithgaredd heblaw amaethyddiaeth a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen, nid yw’n gyson ag ystyried bod y tir yn parhau mewn defnydd amaethyddol.
Tyfu amrywiaeth o gnydau
14. At ddibenion is-baragraff cyntaf Erthygl 40(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig, y cyfnod trin y tir perthnasol mewn unrhyw flwyddyn yw 1 Mai i 15 Gorffennaf (gyda’r ddau ddyddiad yn gynwysedig).
Glaswelltir parhaol
15.—(1)(1) Mae unrhyw laswelltir parhaol—
(a) a leolir mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; a
(b) y mae’n ofynnol cael caniatâd ysgrifenedig mewn perthynas ag ef i’w aredig yn unol ag adran 28E o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981([7]) ond nad yw caniatâd o’r fath wedi ei gael,
wedi ei ddynodi yn laswelltir parhaol amgylcheddol sensitif at ddibenion Erthygl 45(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.
(2) Yn y rheoliad hwn—
mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Ardaloedd â ffocws ecolegol
16.—(1)(1) At ddibenion Erthygl 46(2) o’r Rheoliad Taliadau
Uniongyrchol, ystyrir bod yr ardaloedd a grybwyllir ym
mhwyntiau (a) (tir braenar), (g) (ardaloedd coedlan cylchdro byr),
(h) (ardaloedd coedwigaeth) a (j) (ardaloedd â chnydau
sy’n bachu nitrogen) ac, yn ddarostyngedig i baragraff (3),
bwynt (c) (nodweddion tirwedd), yn Ardaloedd â Ffocws
Ecolegol.
(2) Yn unol ag Erthygl 45(2) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig, ni chaniateir unrhyw gynhyrchu amaethyddol ar dir braenar mewn unrhyw flwyddyn rhwng 1 Chwefror a 31 Gorffennaf (gyda’r ddau ddyddiad yn gynwysedig).
(3) At ddibenion ail is-baragraff Erthygl 45(4) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig, mae nodweddion tirwedd yn gyfyngedig i’r canlynol—
(a) perthi hyd at 10 metr o led; a
(b) waliau cerrig traddodiadol sy’n 1 metr o uchder o leiaf ac yn ddim mwy na 4 metr o led.
(4) At ddibenion Erthygl 45(8) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig—
(a) y rhestr o rywogaethau coed wedi eu plannu y caniateir eu defnyddio ar gyfer coedlan cylchdro byr yw—
Gwernen (Alnus spp),
Bedwen arian (Betula pendula),
Collen (Corylus avellana),
Onnen Ewropeaidd (Fraxinus excelsior),
Pisgwydden (Tilia cordata),
Castanwydden bêr (Castanea sativa),
Masarnen (Acer pseudoplatanus),
Helygen (Salix spp),
Poplys (Populus spp); a
(b) o fewn y 2 flynedd gyntaf yn dilyn plannu unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau ym mharagraff (4)(a)—
(i) ni chaniateir defnyddio unrhyw wrtaith mwynol ar y rhywogaethau hynny, a
(ii) ni chaniateir defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion ond ar gyfer trin chwyn goresgynnol estron; a
(c) y cylch cynaeafu hwyaf yw 20 mlynedd.
(5) At ddibenion Erthygl 45(10) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig—
(a) y rhestr o gnydau sy’n bachu nitrogen yw—
Alffalffa (Medicago sativa),
Ffa (Phaseolus spp),
Ffa (Vigna spp),
Pys-y-ceirw (Lotus corniculatus),
Gwygbys (Cicer spp),
Meillion (Trifolium spp),
Ffa’r gerddi (Vicia faba),
Corbys (Lens culinaris),
Bysedd-y-blaidd (Luninus spp),
Pys (Pisum spp),
Ffacbys (Vicia spp ac eithrio Vicia faba),
Medicago Lupulina (maglys),
Glycine max (ffa soia),
Melilotus albus (yr wydro wen),
Onobrychus viciifolia (y godog); a
(b) mewn unrhyw flwyddyn, rhaid i unrhyw gnwd sy’n bachu nitrogen gael ei hau erbyn 15 Mai a bod yn bresennol am 14 o wythnosau o’r dyddiad y’i heuwyd, neu hyd 1 Awst fan hwyaf.
(6) Wrth gyfrifo cyfanswm yr hectarau a gynrychiolir gan yr Ardal â Ffocws Ecolegol ar gyfer daliad, bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r ffactorau trosi a phwysoli a nodir yn Atodiad X i’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.
Dirymiadau ac arbedion
17.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r offerynnau a
ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”)([8]); a
(b) Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2012([9]).
(2) Bydd Rheoliadau 2010 fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 2015 yn parhau i fod yn gymwys mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth o ran 2014 a blynyddoedd hawlio cynharach.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
22 Ebrill 2015
Gweithgareddau heblaw amaethyddiaeth
RHAN 1
Gweithgareddau heblaw amaethyddiaeth a ganiateir ar ardaloedd amaethyddol am hyd at 28 o ddiwrnodau ym mhob blwyddyn galendr
Saethu colomennod clai
Arwerthiannau cist car
Gwyliau
Sioeau a ffeiriau gwledig
Arwerthiannau a gwerthiannau fferm
Gweithgareddau marchogaeth
Balwnio
Parcio ceir*
Gwersylloedd sgowtiaid
Gwersylloedd geidiaid
Meysydd carafanau
Meysydd pebyll
Lleoliadau teledu a ffilmiau
Chwaraeon moduron
Moto cross
* Pa un a yw hynny’n gysylltiedig ag unrhyw weithgaredd arall heblaw amaethyddiaeth ai peidio
RHAN 2
Ardaloedd a ystyrir yn rhai a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gweithgareddau heblaw amaethyddiaeth
Cyrsiau golff
Ardaloedd ymarfer ceffylau
Meysydd awyr
Parciau solar
Gosodiadau a chyfleusterau chwaraeon parhaol
([2]) 1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.